Lawrlwytho ap GOV.UK One Login

I lawrlwytho'r ap GOV.UK One Login, rydych angen naill ai:

  • iPhone sy'n rhedeg iOS 16.7 neu uwch
  • ffôn Android (er enghraifft Samsung neu Google Pixel) sy'n rhedeg Android 10 neu uwch

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled, agorwch y siop apiau ar eich ffôn a chwiliwch am GOV.UK One Login.

Os ydych yn defnyddio'ch ffôn, gallwch dapio ar un o'r botymau canlynol (agor mewn tab newydd).

Warning Bydd angen i chi fynd yn ôl i'r gwasanaeth roeddech yn ei ddefnyddio i orffen ychwanegu'ch dogfen ar ôl i chi lawrlwytho'r ap.

Os ydych yn cael trafferth ychwanegu dogfen i'r ap

Mae yna ychydig o bethau y gallwch roi cynnig arnynt os nad oeddech yn gallu ychwanegu dogfen i'r app.

Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn yn gallu agor dolenni yn yr ap

Os yw'r ap gennych yn barod, gwiriwch y gall eich ffôn agor dolenni yn yr ap a cheisiwch ychwanegu'ch dogfen eto.

Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ba ffôn sydd gennych.

Os ydych yn defnyddio iPhone
  1. Ewch yn ôl i'r dudalen yn y gwasanaeth a ddywedodd wrthych sut i ychwanegu eich dogfen at yr ap.
  2. Os yw'r dudalen ar agor ar eich ffôn, dylech gyffwrdd a dal y botwm i lawrlwytho'r ap GOV.UK One Login. Os oeddech yn defnyddio cyfrifiadur neu dabled, sganiwch y cod QR a thapiwch y botwm sy'n ymddangos ar waelod dde eich ap Camera.
  3. Dewiswch Open in GOV.UK One Login o'r rhestr o opsiynau a welwch.
Os ydych yn defnyddio ffôn Android
  1. Ewch i'ch gosodiadau ffôn.
  2. Dewiswch Apps a dewch o hyd i'r opsiwn i reoli eich apiau diofyn.
  3. Darganfyddwch GOV.UK One Login yn y rhestr a gwnewch yn siŵr y gall agor dolenni a gefnogir yn yr ap.

Ceisiwch sganio'r cod QR gyda'r ap GOV.UK One Login

Ceisiwch ychwanegu'r ddogfen eto trwy sganio'r cod QR gyda'r ap GOV.UK One Login yn hytrach na'ch ap camera. Os oeddech yn defnyddio ffôn, bydd angen i chi ddechrau eto ar gyfrifiadur neu dabled i weld y cod QR.

  1. Ewch i'r wefan GOV.UK ar eich cyfrifiadur neu dabled.
  2. Darganfyddwch y gwasanaeth roeddech chi'n ei ddefnyddio a dilynwch y cyfarwyddiadau i ychwanegu eich dogfen i'r ap.
  3. Pan ofynnir i chi sganio cod QR, agorwch ap GOV.UK One Login.
  4. Ewch i Dogfennau.
  5. Tapiwch Ychwanegu dogfen.
  6. Tapiwch Os ydych eisoes wedi dechrau ychwanegu dogfen.
  7. Tapiwch Agor sganiwr cod QR. Bydd hyn yn agor rhywbeth sy'n edrych fel eich camera.
  8. Symudwch eich ffôn nes bod y cod QR yn weladwy'n glir ar eich sgrin i'w sganio.
  9. Cadarnhewch eich bod am ychwanegu eich dogfen at yr ap.

Cysylltwch â GOV.UK One Login (agor mewn tab newydd) os na allwch agor yr ap o hyd.